Cinio Haf 2019

Ein Noddwyr

Noddwyr y Noson
Noddwyr Eitemau Penodol
  • Anne Owen - Telynores
  • Marian Howell - Blodau
  • Rich Baker - Argraffu
Cyfranwyr
Rhoddion ariannol >£100
  • Duncan  & Janet Cameron
  • Ffion Flockhart
  • Meryl Darkins
  • Iestyn Rees
  • Gill & Nick Graydon

Rhoddion

Rydym yn ddiolchgar dros ben am bob rhodd. Rhestrir rhoddwyr eitemau dros £50 isod. 

Ein Gwesteion

Arfon Haines Davies

Mae wyneb Arfon Haines Davies yn un cyfarwydd i ni oll. O Aberystwyth mae’r darlledwr adnabyddus yn hanu’n wreiddiol a daeth i’r coleg yn Llundain i astudio drama. Am dros ddeng mlynedd ar hugain, Arfon oedd un o brif gyflwynwyr ITV Cymru. Cafodd ‘Mab y Mans’ ei urddo yn Eisteddfod Sir Gâr yn 2014 am ei gyfraniad arbennig i fyd darlledu a diwylliant Cymru. 

Roedd yn anrhydedd ac yn bleser cael cwmni Arfon yn Cinio Haf 2019 ac rydym yn hynod ddiolchgar iddo am roi ei wasanaeth. Cawsom arwerthiant hwyliog a phroffidiol tu hwnt dan ei arweiniad penigamp.

Yanto Barker

Ganed Yanto Barker, y cyn-feiciwr proffesiynol, ym Machynlleth. Dechreuodd rasio ar y ffyrdd yn gystadleuol pan oedd yn 15 oed. Ar ôl ennill Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Iau Prydain, dechreuodd gystadlu mewn rasys hŷn a chafodd ei ddewis i gynrychioli Prydain ar lefel dan-23.

Cynrychiolodd Yanto Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2002 ym Manceinion. Wedi iddo golli blas ar fywyd fel rasiwr ffordd proffesiynol, penderfynodd Yanto sefydlu ei fusnes dillad beicio.

Yn Cinio Haf 2019, fe'n difyrrwyd gan sylwadau Yanto ar y gwersi a ddysgodd drwy ei ymdrechion i lwyddo gyda'i feicio yn ogystal ag ym myd busnes.

Manon Browning

O Gaerdydd y daw Manon yn wreiddiol. Dechreuodd ei hastudiaethau gyda Meinir Heulyn yn adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bu’n gystadleuydd eiddgar yn Eisteddfodau’r Urdd dros y blynyddoedd. Enillodd dlws Gwen Heulyn ym Mhreseli yn 2013 a’r wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd yn 2018. Mae’n bianydd a chyfeilydd medrus hefyd, a gwelir Manon yn rheolaidd yn perfformio ac yn cystadlu gyda Chôr Llundain a Chôr Aelwyd Llundain.

Roedd yn braf iawn cael ein croesawu i Cinio Haf 2019 gan sain Manon ar y tannau.