Cinio Haf 2017

Cynhaliwyd ein Cinio Haf cyntaf ym mhlasdy hyfryd ‘Pembroke Lodge’, Parc Richmond yn 2017. Dymunwn ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at lwyddiant yn achlysur.

Ein Noddwyr

Noddwyr Aur
Noddwyr Eitemau Penodol
  • Blodau
    • Grant a Mari Howell
    • Eleanor a Mike Delaney
  •  Argraffu
    • Richard Baker
Ocsiwn a Rhoddion

Gyda John Davies, Cyfarwyddwr Buddsoddiadau gyda 'Sellar Property' yng ngofal y morthwyl, codwyd dros £6,000 yn yr ocsiwn a fe’n difyrrwyd ni oll ar yr un pryd!

Rhoddwyd eitemau tuag at yr ocsiwn neu gyfraniadau ariannol gan y canlynol:

Ein Gwesteion

Ni ddiweddarwyd y cyflwyniadau cryno isod ers yr achlysur.

Osian Roberts

Ganwyd Osian Roberts, is-reolwr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, ar Ynys Môn. Roedd yn bêl-droediwr talentog ac yn gapten tîm Ysgolion Cymru. Yn 1985 derbyniodd Ysgoloriaeth Pêl-droed i astudio am radd mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Furman yn Ne Carolina yn yr Unol Daleithiau. Cewch mwy o’i hanes yn ei hunangofiant difyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef Môn, Cymru a’r Bêl.

Sean Fletcher

Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu a radio yw Sean Fletcher, ac mae'n wyneb cyfarwydd ar Country File, Good Morning Britain a Rebound. Bu’n darlledu o’r Gemau Olympaidd a thwrnament pêl-droed Euro 16, ac mae’n ysgrifennu hefyd ar gyfer yr Huffington Post. Mae ef a'i wraig Luned Tonderai yn gyn-rieni yr Ysgol.

Glain Dafydd

Mae Glain Dafydd yn enw cyfarwydd i nifer ohonom ers inni ei gweld ar lwyfannau Cymru yn nyddiau cynnar ei gyrfa. Ymysg amryw lwyddiannau, mae wedi ennill cystadlaethau Cerddor Ifanc Cymru Texaco, Cerddor Ifanc Gregynog a’r Rhuban Glas ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal, enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Sioned Wiliam

Wedi cyfnod fel rheolwraig comedi ITV, penodwyd Sioned Wiliam yn Olygydd Comisiynu Comedi ar gyfer BBC Radio 4 ym mis Mawrth 2015. Mae hi’n un o gyn-famau’r Ysgol Gymraeg a mae ei hymroddiad i’r ysgol yn parhau fel aelod o Fwrdd yr ysgol ac ar bwyllgor gwaith ‘Cinio Haf’. Cafodd Sioned hyd i amser hefyd i ysgrifennu dwy nofel fachog, sef Dal i Fynd a Chwynnu.