Cynhaliwyd Cinio Haf 2018 yn Neuadd Fawr hanesyddol yr Inner Temple.
Noddwyr
Noddwyr Aur
- Elusennau Garthgwynion
Noddwyr Eitemau Penodol
- Blodau Marian Howell
- Argraffu Richard Baker
Rhoddion
Rhoddwyd ≥ £100 neu eitemau tuag at yr ocsiwn neu'r raffl gan:
- Aberfalls Distillery
- Alex Jones
- Awen Duggin
- Ben Lake AS
- Bluestone National Park Resort
- Bryn Williams
- Clogau
- DaMhile Gin
- Dylans Restaurant
- Elizabeth Picton
- Gwen Davidson-Norrie
- Gwesty Cymru
- Gwenllian Williams
- Halen Mon
- Huw Roberts
- Janet Cameron
- Julia Dabrowa
- London Welsh Developments Cyf.
- Mindful Massage - Eiri Jones
- Myddfai
- Parva Farm Vineyard
- Perform
- Portmeirion
- Robert John
- Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri
- Rhian Medi
- Shirley Newton
- Sian Lloyd
- St Brides Spa Hotel
- Steffan Davies
- Stephen Fry
- Surf Snowdonia
- The Welsh Gift Shop
- Vivat Bacchus
- Wolfgang Emmerich
- Zip World
Ein Gwesteion Arbennig
Ni ddiweddarwyd y cyflwyniadau cryno isod ers yr achlysur.
Y Farwnes Tanni Grey-Thompson
Ganwyd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yng Nghaerdydd yn 1969. Rydym oll yn gyfarwydd â llwyddiant ysgubol Tanni fel athletwraig; enillodd 16 o fedalau yn y Gemau Paralympaidd a llu o wobrau eraill. Enillodd wobr y BBC, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, deirgwaith. Yn 2009 cafodd ei derbyn i’r Orsedd a mae'n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ers 2010. Aeth Tanni i Nant Gwrtheyrn i ddysgu Cymraeg, yn un o raglenni pry ar y wal S4C, sef Cariad@iaith. Daeth i'r brig fel y ddysgwraig orau o blith y sêr eraill a ymddangosodd ar y rhaglen. Mae hi’n briod gyda'r Dr Ian Thompson ac mae ganddynt un ferch o’r enw Carys.
Gethin Jones
Dechreuodd y cyflwynydd Gethin Jones ei yrfa deledu ar S4C. Wedi hynny, ymunodd â thîm Blue Peter lle cafodd lawer o anturiaethau cyffrous, heb son am rai brawychus! Cyferbyniad llwyr oedd y cyfnod a ddilynodd gyda Strictly Come Dancing pan gawsom y pleser o’i wylio’n dawnsio’i ffordd i’r rownd gyn-derfynol. Cyn bo hir, cewch ddeffro yn ei gwmni pan fydd yn cyflwyno Hits Radio Breakfast Show. Cafodd Gethin a’i ffrind Sion eu hysbrydoli gan eu neuaint i sefydlu’r elusen ‘Nai’, ar gyfer plant awtistig. Cynigiant gymorth i’r plant a’u teuluoedd, a’u nod yn y pen draw yw agor ysgol ar gyfer disgyblion awtistig yng Nghymru.
Alis Huws
Telynores yn wreiddiol o Ddyffryn Banw yng nghanolbarth Cymru ydi Alis Huws. Mae hi’n gyn-aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf o Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2017. Mae Alis eisoes wedi profi llwyddiannau di-ri, ac mae hi wedi perfformio’n eang. Teithiodd yn ddiweddar i Hong Kong lle cymerodd ran mewn Cynhadledd Telyn Ryngwladol gyda Catrin Finch. Dewisiwyd Alis yn 2016 i gynrychioli Cymru yn Ffair Ryngwladol Osaka ac yn y flwyddyn honno hefyd, perfformiodd yn Agoriad Brenhinol y Senedd.
Daniel Evans
Daniel Evans, sy'n hannu o ardal Tregaron yn wreiddiol, a fydd ein ocsiwniwr. Mae’r ffaith bod ei ferch Rhiannon yn cyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Llundain yn destun balchder iddo. Ar ôl dros 25 mlynedd fel peiriannydd, mae Daniel bellach wedi arall-gyfeirio ac yn awr mae'n gweithio yn Theatr yr Hexagon yn Reading. Gobeithio bydd ei sgiliau theatrig yn helpu’r achos fel arwerthwr penigamp!