Rhaglen

Cinio Haf 2022

Rhaglen y Noson

  • 18.15 Derbyniad yng ngwmni Glain Dafydd
  • 19.00 Cinio Tri Chwrs
  • 21.00 Llefarwr Gwadd: Huw  Edwards
  • 21.30 Arwerthaint 
  • 22.45 Troi tua thre

Huw Edwards

Mae llawer ohonom yn cofio gyrfa gynnar Huw Edwards fel Gohebydd Seneddol gyda BBC Cymru yn yr wythdegau. Mae holl lwyddiannau Huw yn ei yrfa ddisglair yn rhy niferus i'w rhestru yma! Maent yn cynnwys derbyn Gwobr BAFTA Cymru am y 'Cyflwynydd Sgrin Gorau' am ei waith yn cyflwyno rhaglen o'r enw  The Prince and the Plotter, am arwisgiad Tywysog Cymru. Er mai newyddiadurwr yw Huw yn bennaf, mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar bynciau eang ar deledu a radio, gan gynnwys rhaglenni dogfen ar gerddoriaeth glasurol, crefydd, Cymru a'r iaith Gymraeg. Roedd ei ymddangosiad ar Mary Berry's Christmas Party yn 2018 yn enghraifft arall o ehangder ei ddiddordebau! O ystyried gyrfa ddarlledu hynod brysur Huw, a'i ymrwymiadau teuluol, anodd yw dychmygu sut lwyddodd hefyd i ysgrifennu’r llyfr City Mission: The Story of London's Welsh Chapels, a gyhoeddwyd yn 2014. 

Mae’n bleser o’r mwyaf ac yn fraint ei groesawu fel ein llefarydd gwadd eleni.

Glain Dafydd

Mae gyrfa Glain Dafydd yn cynnwys llwyddiannau mewn cystadleuthau megis 4ydd Rencontres Internationales de la Harpe en Île-de-France, Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Rhuban Glas yr Eisteddfod Genedlaethol a gwobr “City of Szeged prize” yng Nghystadleuaeth Delyn Ryngwladol Hwngari. Aeth Glain i astudio yn yr École Normale de Musique de Paris ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Fel unawdydd a cherddor siambr mae Glain wedi perfformio mewn neuaddau megis Wigmore Hall, Royal Festival Hall, Cranleigh Arts Centre, Foundling Museum a Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis. Teithiodd fel artist gwadd gyda Chôr Meibion y Penrhyn i America, gan berfformio yng Ngholumbus, Washington, Vermont a Glens Falls. Mae hi wedi perfformio mewn gwyliau megis Harpissima Salvi, Gwyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun, Gwyl Three Choirs (deuawd ffliwt a thelyn) a MusicFest yn Aberystwyth. Perfformiodd hefyd yng ngwyl Saluzzo yn dilyn ei llwyddiant yng nghystadleuaeth 4ydd Rencontres Internationales de la Harpe en Île-de-France, a bydd yn beirniadu’r un gystadleuaeth flwyddyn nesaf. Mae Glain yn artist gyda Live Music Now, gan ddarparu cerddoriaeth mewn ysbytai, cartrefi gofal ac ysgolion anghenion addysgol arbennig. Yn ogystal â pherfformio mae Glain yn dysgu yn Queen’s College London ac yn Hampstead Harp Centre.