Croeso

Noswaith o adloniant, cinio ac arwerthiant er budd Ysgol Gymraeg Llundain yw ein Cinio Haf blynyddol. Ein nod yw trefnu nosweithiau pleserus a hwyliog ar gyfer ein cefnogwyr a chyfeillion i godi arian tuag at yr ysgol. Gobeithiwn hefyd gynyddu’r ymwybyddiaeth ohoni ac i ddathlu llwyddiannau’r ysgol.

Cynhaliwyd ein digwyddiad diweddaraf yn adeilad godidog yr Institute of Directors yn Pall Mall, a ddyluniwyd gan John Nash. I gael blas ar ein nosweithiau ewch i’r oriel luniau yn Gorffennol.

Edrychwn ymlaen at Cinio Haf 2022. Gan barhau â’n traddodiad o ymweld â gwahanol leoliadau hardd, rydym wedi dewis un o lifrai mwyaf cain Llundain, sef The Clothworkers’ Hall yng nghanol y ddinas. Rydym ni wrth ein boddau bod y darlledwr Huw Edwards a’r delynores Glain Dafydd wedi cytuno i fod yn westeion.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at info@ciniohaf.co.uk

Cinio Haf 2022 yn gryno:
The Clothworkers' Hall, Llundain EC3R 7AH
Mehefin 17eg, 2022

Tanysgrifiwch i restr e-bost Cinio Haf